Rhyfeddol iawn i'r nefol lû,
Oedd gweled eu Creawdwr cû;
Yn gwisgo natur wan ei rhyw,
Yn waelaf ddyn - anwylaf Dduw!
Os rhyfedd gan angylion nef,
Oedd gwel'd ei bur ddynoldeb ef;
Mae myrdd o ryfeddodau mwy,
Yn rhinwedd glân ei farwol glwy'!
Ni all angylion nefoedd lon,
Cerubiaid a seraffiaid hon,
A heppil Adda oll yn un,
Fynegi doniau Mab y Dyn.
O am y ddedwydd, ddedwydd awr,
Pan ddyddio trag'wyddoldeb mawr!
Cawn wledda fyth
ar rin ei glwy',
A dechreu mawl heb ddiwedd mwy.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850
[Mesur: MH 8888] gwelir: O'r nefoedd daeth ar fore clir Rhyfeddod oedd rhyfeddod yw |
Very wonderful for the heavenly host
Was seeing their great Creator,
Wearing a nature of a weak kind,
As the lowliest man - most beloved God!
If wonderful to the angels of heaven
Was seeing his pure humanity;
There is a myriad more wonders
In the holy merit of his mortal wound!
Unable ar the angels of cheerful heaven,
These cherubim or seraphim,
And the race of Adam all as one,
To express the gifts of the Son of Man.
O for the happy, happy hour,
When the great eternity dawns!
We shall get to feast forever
on the merit of his wound,
And begin praise with no more ending.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|